SL(6)463 – Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024

Cefndir a Diben

Gwneir Rheoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) 2024 o dan bwerau a roddwyd o ganlyniad i Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (“y Ddeddf Ymadael”) i ddiwygio deddfwriaeth ym maes iechyd planhigion a ffioedd iechyd coed.

Mae’r offeryn yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019 sy’n gymwys o ran Cymru. Mae'n alinio ffioedd ar gyfer planhigion a chynhyrchion planhigion â'r newid yn amlder y gwiriadau a gynhelir ledled Prydain Fawr ar ôl rhoi Model Gweithredu Targed y Ffin (TOM) ar waith. Bydd yr offeryn yn diwygio hefyd y ffioedd sy’n gysylltiedig â gwirio dogfennau o ganlyniad i newid gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol.

Mae'r newidiadau i ba mor aml y cynhelir gwiriadau a chyflwyno gwiriadau sy'n seiliedig ar risg ar nwyddau risg canolig a fewnforir o aelod-wladwriaethau'r UE, Liechtenstein a'r Swistir, o 30 Ebrill 2024 yn ganlyniad Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Lloegr) a Rheolaethau Swyddogol (Iechyd Planhigion) (Amlder Gwiriadau) (Diwygio) 2024.

Bydd y Rheoliadau hyn hefyd yn cywiro gwall yn Rheoliadau Iechyd Planhigion etc.   (Ffioedd) (Cymru) 2018 a wnaed yn Atodlen 1 o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022 ble codwyd nifer o ffioedd ar lwythi cymysg. Bwriad y polisi oedd rhoi pob categori o blanhigyn sydd i'w blannu mewn un categori, ond arweiniodd y ddeddfwriaeth at gam godi ffioedd, yn ôl categori yn hytrach nac yn ôl llwyth. Bydd y diwygiad yn sicrhau bod pob categori o blanhigyn sydd i'w blannu mewn un categori, a bydd hyn yn sicrhau mai dim ond un ffi unffurf fydd yn cael ei chodi ar lwythi o blanhigion sydd i'w plannu.

Y weithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn rheoliad 2(3), yn yr Atodlen 1 newydd, yn y cofnod ar gyfer “Pyrus”, yng ngholofn 2, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y testun Saesneg, mae’r rhestr o wledydd sy’n dechrau gyda “Any third country other than…” yn gorffen gyda “Liechtenstein, South Africa or Switzerland”. Mae’r wlad “De Affrica”, fodd bynnag, ar goll o’r testun Cymraeg fel bod y rhestr gyfatebol o wledydd yn y cyfieithiad yn gorffen gyda “Liechtenstein neu’r Swistir”.

2.    Rheol Sefydlog 21.2 (vii) – ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft.

Yn rheoliad 2, mae gwahaniaeth rhwng y testun Cymraeg a’r testun Saesneg. Yn y geiriau mewn cromfachau ar ôl “Schedule 1”, mae’r testun Saesneg yn nodi “(fees in connection with a plant passport authority)”. Fodd bynnag, ystyr y cyfieithiad yn y man cyfatebol yn y testun Cymraeg yw “(ffioedd am arolygiadau mewn cysylltiad ag awdurdodiad pasbort planhigion)”. Felly, mae’r testun Cymraeg yn cynnwys geiriau ychwanegol sy’n golygu “am arolygiadau” fel y gwelir ym mhennawd presennol Atodlen 1 i Reoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd) (Coedwigaeth) (Cymru) 2019.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 2(5), yn yr Atodlen 2B newydd, yn yr ysgwydd nodyn, mae'n cyfeirio at “Rheoliad 3(2)(a)”. Dylai, fodd bynnag, gyfeirio at “Reoliad 3(2)(a) a (b)” oherwydd cyfeirir at Atodlen 2B yn is-baragraff (a) ac is-baragraff (b) o’r paragraff newydd (2) yn rheoliad 3 o Reoliadau Iechyd Planhigion etc. (Ffioedd) (Cymru) 2018, a ddisodlwyd gan reoliad 2(2)(a) o’r Rheoliadau hyn.

Rhinweddau: craffu    

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

6 Mawrth 2024